Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd

 

Environment and Sustainability Committee

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Bae Caerdydd

Caerdydd

CF99 1NA

                                                             

                 2 Awst 2011

 

 

Annwyl Gyfaill

 

Mae Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru’n cynnal ymchwiliad i bolisi ynni a chynllunio yng Nghymru. Dyma gylch gorchwyl yr adolygiad.

 

Bydd y Pwyllgor yn ystyried sut mae’r trefniadau datganoli presennol ar gyfer polisi ynni a chynllunio yn effeithio ar gyflawni’r ‘cymysgedd ynni’ y mae Llywodraeth Cymru am ei weld, fel yr amlinellir yn Chwyldro Carbon Isel – Datganiad polisi ynni (2010)[1] a’r UK Renewable Energy Roadmap (2011).[2]

 

 

 

Bydd y materion y bydd y Pwyllgor yn dymuno eu hystyried fel rhan o’r cylch gorchwyl hwn yn cynnwys:

 

 

Nid oes yn rhaid i unrhyw gyflwyniadau fynd i’r afael â’r holl feysydd uchod ac mae’r Pwyllgor yn croesawu tystiolaeth gan unigolion a sefydliadau. Os ydych yn gwybod am berson neu sefydliad a allai fod â diddordeb yn ymchwiliad y Pwyllgor, a fyddech cystal â dangos y llythyr hwn iddynt.

 

Byddwn yn cynnal sesiynau tystiolaeth lafar yn ystod tymor yr hydref 2011, felly byddai’n ddefnyddiol pe gallech nodi yn eich cyflwyniad a fyddech yn barod i roi tystiolaeth lafar, pe byddem yn eich gwahodd i wneud hynny.

 

Yn gyffredinol, byddwn yn gofyn am gyflwyniadau ysgrifenedig oherwydd mae’n arferol i’r Cynulliad Cenedlaethol gyhoeddi’r dystiolaeth a gyflwynir i’r Pwyllgor ar ein gwefan fel bod cofnod cyhoeddus ohoni. Fodd bynnag, gallwn hefyd dderbyn tystiolaeth mewn fformat sain neu fideo. Gellir cyflwyno tystiolaeth yn Gymraeg neu yn Saesneg, ond rydym yn gofyn bod sefydliadau sydd â Chynlluniau Iaith Gymraeg yn darparu ymatebion dwyieithog, lle bo hynny’n berthnasol, yn unol â’u polisïau.

 

Dylid anfon unrhyw gyflwyniadau at y Clerc yn E&S.comm@wales.gov.uk, neu i’r cyfeiriad uchod. Dylent gyrraedd yn ddim hwyrach na Dydd Gwener 23 Medi 2011.

 

 

 

 

Datgelu Gwybodaeth

 

Mae’n arferol i’r Cynulliad Cenedlaethol gyhoeddi tystiolaeth a ddarperir i ymchwiliad/bwyllgor. O ganlyniad, efallai y bydd eich ymateb yn ymddangos mewn adroddiad neu mewn tystiolaeth ategol sy’n rhan o adroddiad. Ni fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn cyhoeddi gwybodaeth a ystyrir yn ddata personol.

 

Os ceir cais am wybodaeth a gyflwynwyd o dan ddeddfwriaeth y DU, efallai y bydd angen datgelu’r wybodaeth a ddarperir gennych. Gall hyn gynnwys gwybodaeth a ddilëwyd cyn hynny gan y Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion cyhoeddi.

Os byddwch yn darparu unrhyw wybodaeth, ac eithrio data personol, nad yw’n addas i’w datgelu i’r cyhoedd yn eich barn chi, eich penderfyniad chi yw nodi pa rannau na ddylid eu cyhoeddi a rhoi dadl resymol dros hyn. Bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn ystyried hyn wrth gyhoeddi gwybodaeth neu wrth ymateb i geisiadau am wybodaeth.

 

Yn gywir

 

Dafydd Elis-Thomas AC / AM

Cadeirydd / Chair

 

 



[1] Llywodraeth Cymru, Chwyldro Carbon Isel – datganiad polisi ynni, Mawrth 2010

[2] Yr Adran Ynni a Newid Hinsawdd (a’r Llywodraethau datganoledig), UK Renewable Energy Roadmap, Gorffennaf 2011.

[3] P-03-273 Cludo tyrbinau gwynt yn y canolbarth a P-04-324 Dywedwch Na i Tan 8 - Mae ffermydd gwynt a llinellau pŵer foltedd uchel yn difetha ein cymuned